Teitl grŵp trawsbleidiol: |
Twristiaeth |
Dyddiad y cyfarfod: |
Dydd Mercher 6 Gorffennaf |
Lleoliad: |
Y Pierhead a Teams |
Enw: |
Teitl: |
Sam Rowlands (SR) |
AS dros Ogledd Cymru |
Darren Millar (DM) |
AS dros Orllewin Clwyd |
Russell George (RG) |
AS dros Sir Drefaldwyn |
Tom Giffard (TG) |
AS dros Orllewin De Cymru |
Zak Weaver (ZW) |
Staff cymorth i Sam Rowlands AS |
Harry Saville (HS) |
Staff cymorth i Sam Rowlands AS |
Rhys Thomas (RT) |
Staff cymorth i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig |
Stefan Ryszewski (SR) |
Staff cymorth i Tom Giffard AS |
Jena Quilter (JQ) |
Staff cymorth i Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig |
Ellie Richards (ER) |
Staff cymorth i Luke Fletcher AS |
Andrew Jenkins (AJ) |
Staff cymorth i Sioned Williams AS |
Heledd Roberts (HR) |
Staff cymorth i Rhun ap Iorwerth |
Suzy Davies (SD) |
Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru |
Adrian Greason-Walker (AGW) |
Eiriolwr Polisi, Cynghrair Twristiaeth Cymru |
Barbara Griffiths (BG) |
Bythynnod Gwyliau Gogledd Cymru |
Adrian Barsby (AB) |
Is-gadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru |
Shoko Doherty (SD) |
Prif Swyddog Gweithredol Celtic English Academy |
Simon McGrath (SM) |
Camping and Caravanning Club |
Eirlys Jones (EJ) |
Go North Wales |
George Reid (GR) |
Glangwili Mansion |
Alistair Handyside (AH) |
Cadeirydd Gweithredol, Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Enw: |
Teitl: |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Croeso a chyflwyniadau: · Croesawodd SR bawb i’r cyfarfod ac amlinellodd fod TG wedi cyflwyno cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. · Tynnodd SR sylw nad oedd y cynnig i ddirymu'n rhan o'r grŵp trawsbleidiol, y byddai’r grŵp trawsbleidiol yn siarad am eithriadau a goddefebau ynghylch y Gorchymyn, a bod y grŵp trawsbleidiol yn croesawu cefnogaeth drawsbleidiol.
Canlyniadau posibl Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022:
· Croesawodd SD y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwahaniaethu rhwng ail gartrefi a thwristiaeth, ond amlinellodd na fydd llawer o fusnesau’n bodloni’r rheol 182 ddiwrnod. · Dywedodd SD fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gasgliad, ond nad oedd wedi cyfiawnhau pam y byddai'n 182 ddiwrnod. · Amlinellodd SD y gwnaeth Cynghrair Twristiaeth Cymru gynnig trothwy uwch na'r hyn a oedd ar waith yn wreiddiol. · O ran y cynnig i ddirymu, dywedodd TG ein bod yn byw mewn gobaith, a bod y rheol 182 ddiwrnod yn gamarweiniol ac yn ddiffygiol. · Roedd TG yn awyddus i wrando ar syniadau a safbwyntiau'r grŵp trawsbleidiol cyn y ddadl yn y Senedd. · Roedd AH yn awyddus i egluro pryd y bydd y gorchymyn yn dechrau, ac a fyddai'n ôl-weithredol. · Amlinellodd ZW fod SR wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn, ac y byddai'r llythyr hwn a'r ymateb yn cael eu dosbarthu i aelodau'r grŵp trawsbleidiol. · Darllenodd SR y llythyr gan y Gweinidog, a thrafododd y negeseuon cyferbyniol o hyn. · Amlinellodd AGW na fydd gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau a’r capasiti i fonitro busnesau, a bod hyn yn cael ei wthio drwodd gyda Phlaid Cymru. · Ailadroddodd AH y byddai ailbrisio’n ddarn enfawr o waith. · Gofynnodd SR am drafodaethau'r diwydiant â Vaughan Gething. · Dywedodd GR ei fod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru beth oedd y brys, ac nad yw'r Gorchymyn hwn yn adlewyrchu'r ymgynghoriad. Dywedodd GR y dylid atgoffa swyddogion Llywodraeth Cymru mai gweision cyhoeddus ydynt, ac mai hybu a chefnogi'r diwydiant yw eu gwaith hwy, nid ei ddinistrio. · Amlinellodd SD na all Llywodraeth Cymru anwybyddu ei hymgynghoriad heb reswm. · Dywedodd AB fod yr adborth roedd yn ei gael yn ymwneud â llesiant pobl, a bod dryswch o hyd. · Gofynnodd SR i'r grŵp trawsbleidiol am eithriadau a goddefebau. · Amlinellodd AH dudalen o eithriadau a goddefebau i'r grŵp trawsbleidiol, roedd y diwydiant yn galw amdanynt. · Diolchodd SR i AH am ddangos ei ddogfen eithriadau a goddefebau, a gofynnodd a oedd Llywodraeth Cymru yn fodlon ar hyn. · Dywedodd SD ac AH fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyfarfod â'r diwydiant i drafod hyn. · Amlinellodd SD fod proses apelio ar goll. · Cododd AB yr hyblygrwydd rhwng rhanbarthau, ac nad oedd 182 ddiwrnod ar draws Cymru gyfan yn gwneud synnwyr. · Amlinellodd SR fod cynnig heddiw yn ymwneud â’r cynnig i ddirymu, a bod goddefebau ac eithriadau i ddod wedyn. · Dywedodd AH fod llawer o bobl bellach yn ymdrin â phroblemau iechyd meddwl a bod busnesau’n cael eu gwerthu. · Amlinellodd SD fod gwybodaeth anghyson ym memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru. · Dywedodd SR fod ar y grŵp trawsbleidiol angen cynllun i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif gyda thoriad yr haf i ddod. · Cododd TG bosibilrwydd cyfarfod â'r rhai oedd â phrofiadau go iawn o orfod gwerthu busnes. · Amlinellodd DM yr annhegwch ynghylch llety gwyliau sydd â chyfyngiadau cynllunio yn gorfod bodloni'r rheol 182 ddiwrnod. · Dywedodd DM fod y rheol 182 ddiwrnod yn gwbl annheg.
Casgliad a phwyntiau gweithredu:
|